Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr achwyn ar y drafferth oedd arni hi ac ereill y pryd hwnw i gyrchu glo o Daren-Penallta, ger Ystrad Maenarch,i Bant-y-waun, a manau ereill yn y plwyf. Ond yn mhen rhyw dymor o amser bu rhaid tynu ei hen fwthyn i lawr i'r dyben o gael gweithio glo odditano, oblegyd yr oedd o fewn chwech troedfedd i gareg ei haelwyd! Yr oedd hyn yn ffaith na fuasai yr hen ddynes yn debygol o'i chredu pe buasai rhywun yn ei hysbysu iddi.

Eto, rhoddwn enwau rhai o'r Gweithiau glo drwy'r plwyf, yn nghyd a'u perchenogion.

Enwau y Gweithiau. Perchenogion.
Cwmbargoed Cwmpeini Dowlais,
Rhôs Las Cwmpeini Dowlais
Penydaren Cwmpeini Penydaren
Lefel Meredydd William Meredydd
Gethin Crawshay, Ysw.
Graig William Rees
Castell y Wiwer Crawshay, Ysw.
Troedyrhiw Mr. Thomas
Troedyrhiw Lefel E. Brown
Danyderi Samuel Thomas.
Hafod Tanglws[1] Crawshay, Ysw
Perthigleision Benjamin Davies.

Hefyd, mae yn Nhroedyrhiw gwarelau meini o'r fath oreu. Cafwyd llawer o geryg o'r lle hwn tuag at adeiladu yn Merthyryn yr ugain mlynedd diweddaf. Perthynai cwarel Tyntal-dwm, pan oedd gweithio ynddo bumtheg mlynedd yn ol, i Llewellyn's y Begwns. A'r rhai Castell-v-wiwer, i'r ddau Gymro adnabyddus, W. Davies a John Llywellyn. Bernir fod gweithio glo i wneuthur tanwydd mewn ymarferiad yn y plwyf hwn tua'r ddegfed neu'r unfed ganrif ar ddeg. Darganfyddodd Clarke, wrth wneud ei ymchwiliadau yn ddiweddar, olosg glo mewn ryw ran o adfeilion Castell Morlais; ond nid oes unrhyw sicrwydd o ba le y cludwyd ef yno. Barnai rhai ei fod yn cael ei weithio yn Cwmyglo mor foreu ag unrhyw fan yn y plwyf. Ond nid ydyw hyny yn amgen na thraddodiad na ellir

  1. Gall mai oddiwrth sant a gydoesodd a Tydfil, yn yr ardal hon, y derbyniodd yr enw.