Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae mawr a rhyfedd ddoethineb, yn gystal ac holl wybodaeth ac hollalluawgrwydd yn cael ei amlygu yn yr adnoddau gwerthfawr hyn gymaint ag un peth is haul! Pan oedd y boblogaeth yn anaml, nid oedd yr angen gymaint, ac nid oedd wedi taraw i feddwl neb am y trysorau mawrion oedd Saerniwr mawr y greadigaeth wedi ei osod o fewn hyd cyrhaedd dyfais a gallu bod rhesymol! Ac wedi gosod yr arwres anian i daenu ei chwrlid gwyrddlas drostynt i'w haddurno! Pwy mor ffol a'r anffyddiwr?

Yn awr brysiwn yn mlaen i draethu ar y pethau canlynol.

GOLYGFA DDYCHYMYGOL AR Y LLE BEDAIR CANRIF YN OL—HANESIAETH HENAFOL, DARGANFYDDIADAU—DECHREUAD A CHYNYDD DOWLAIS—ADDYSG—BEIRDD A LLENORION, &c.

Pan y mae y meddwl yn ehedeg yn ol ar adenydd dychymyg dros bump neu chwech o oesau, disgynai ar unwaith mewn rhyw fan cyfleu's ar un o'r creigiau anhygyrch a disathr a lechweddant tua'r Afon Taf, yr hon yn araf a wel yn ymddolenu rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion, a'i dyfroedd grisialaidd fel yn sibrwd yn awel dyner y dydd wrth daro yn erbyn traed y bryniau a estynent eu penau'n lled-syth tua bro asur; ar y cwr gorllewinol iddo gwelir y gornant fechan Morlais, fel yn neidio i fodiant o grombil y mynydd, gan gymeryd ei chyfeiriad yn ffrothwyllt tuag i lawr o foel ac anial fynydd Dowlais, ac un arall draw ac yma yn ymlwybro yn yr un ddullwedd tua'r gwaelodion dros anialdir anniwylliedig weithiau, a phryd arall rhwng tiroedd yn dynodi diwylliaeth a diwydrwydd dwylaw dynion, y rhai oeddynt wedi ffurfio eu cartrefleoedd un yma a'r llall draw, o'r braidd yn nghlyw uchelwaedd a ddygwydd ai yn achlysurol gan y naill neu llall. Ac yn y nos. nid oedd dim i'w weled ond ambell gipdrem yma a thraw, ar oleuni llwydwanaidd gan yr amaethwr neu rai o'i deulu wrth edrych yr anifeiliaid; ac arall a " llusern yn ei law yn brasgamu yn groesi'r caeau, gan gyfeiriro ei gamrau tua thy cymydog, i adrodd rhyw