Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwchlaw i arwyneb y môr. Nid oedd y trigolion heb gael goddef yn drwm oddiwrth glefydau a marwolaethau lluosog, hyd y deng mlynedd diweddaf, pryd y daeth y Bwrdd Iechyd i liniaru yr ymweliadau dirdynol a brawychus hyn, trwy ysgubo, golchi, a glanhau pob budreddi ac ysgarthion oedd yn gwenwyno awyr y lle, yn nghyd a threfnu adeiladau newyddion, yn ol y cynllun mwyaf iachus a chysurus i'r preswylwyr. Mae yma yn bresenol lawer o faelfaoedd tra llawnion o nwyddau, ac yn gwerthu mor rhad a manau ereill, trwy y plwyf. Mae yma hefyd dros 100 o dafarndai trwyddedig, &c. Cynaliwyd yma gymdeithas lenyddol er ys amryw flynyddoedd yn ol, dan yr enw Cymdeithas Lenyddol y Gwernllwyn, o dan arolygiad y Parch. B. Williams, (Annibynwr); a bu yn llwyddianus i ddadblygu llawer talent, trwy fod yn argymhelliad iddynt i arfer eu doniau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, ond cafodd golled i raddau ar ymadawiad ei pharchus arolygydd, yr hwn oedd yn Gymro twym-galon, talentog, a charedig—parod bob amser i wneud yr hyn a allai dros ei gydgenedl y Cymry. Gellir dyweyd am dano yma, "Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth." Gobeithiwn y bydd yn offeryn yn y byd i godi llawer o enwogion yn y byd barddonol, &c., cyn ei rifo i'r ty rhag derfynedig i bob dyn byw. Mae yn y lle hwn lawer o feirdd a llenorion tra enwog, ac yn eu plith gwnawn enwi F. E. Clarke, Ysw., awdwr y Guide to Merthyr, fo, Lady Charlotte, Gwilym ap Ioan, D. Bowen, G. Glan Teifi, ac ereill. Mae yn y lle hwn hefyd am ryw Fudd Gymdeithasau, Iforiaid, Odyddion, Coedwigwyr, &c. Cynelir yma hefyd Eisteddfodau llewyrchus, yn awr ac eilwaith, y rhai a brofant nad ydyw y trigolion wedi anghofio hen iaith eu teidau, er cymaint o estroniaid sydd wedi dylifo yma yn y ganrif ddiweddaf, o blant Hengist, a lluoedd llechwraidd yr Ynys Werdd, y rhai, fel y mae gwaethaf y modd, ydynt wedi, ac yn bod, yn achos i gadw y cyflogau yn isel, o herwydd y maent dan rwymau i weithio, am eu bod mor epiliog, neu ynte oddef newyn, ac os na weithiant, gwyliant yr amser, a'r meistri, ac ymddyga y rhan amlaf yn