Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deilwng o honynt eu hunain, mewn meddwl, gair, a gweithred.

Gadawn y lle hwn yn awr, a brysiwn dros у brif. ffordd, tua Merthyr, gan groesi pont y Gellifaelog, lle cyferfydd godreu Dowlais â chwr uwchaf Penydaren. Ar у de a'r aswy, canfyddwn restrau o dai, agos yn newydd, ac yn eu mysg, ryw ychydig o'r hen aneddau a adeiladwyd, debygem, tua'r amser y cychwynwyd Gwaith haiarn y lle hwn, er mwyn cyfleusderau i'r gweithwyr, y rhai oeddynt yn Seison, ac oddiwrthynt hwy y derbyniodd yr enw o Restr y Seison, ac y mae yn aros arni hyd heddyw. Ac ar y de, gyda chodiad y tir, gwelwn restrau uwch rhestrau yn codi nes ydym yn colli ein golwg arnynt oddiar y brifffordd. Ar yr ochr hon y mae amryw fasnachdai eang a chyfleus yn denu ein sylw, megys yr Inn Fawr, &c., nes yr ydym yn dyfod i mewn i Ferthyr, dros Bont Morlais, pryd y cawn ein hunain ar unwaith yn mysg adeiladau prydferth, yn dair uwchder lloft; ac yn eu plith, gwnawn enwi Morlais Castle Inn, y Pont Morlais Inn, &c. Ond rhaid i ni adael y lleoedd yma i'r dyben o sylwi arnynt ganrif yn gynarach, pryd nad oedd, fel y crybwyllwyd, ond rhyw nifer fechan o hen dai llwydion, a'u penau gwelltog, yn sefyll tua'r fan y saif y Tlotty yn awr, a phump_neu chwech ereill, hyd ochr yr heol o'r hen eglwys i Bont Morlais. Yn ymyl hon, ar yr ochr-ddwyreiniol, mewn hen fwthyn oedd yno, y ganwyd y diweddar Thomas Pritchard, o Gefn-y-fforest, yr hwn oedd fab i'r Dr. Pritehard, ac a fu yn wr parchus yn ei gymydogaeth nes i angeu ei symud o'r byd, wedi iddo gyrhaedd yr oedran anarferol o 99 flynyddoedd a saith mis. Yr oedd tollborth wrth y bont hon, ac un arall wrth y bont haiarn yr amser hwnw. Symudwyd y rhai hyn ychydig cyn amser Rebeca, gelynes y tollbyrth. Y dollborth oedd ger Gwaith Penydaren a symudwyd yn ei hamser hi, er nad ymwelodd a'r lle hwn; a'r hon oedd ger y tan lle у saif y London Warehouse yn awr, a symudwyd cyn cof gan neb yma, oddigerth gan ambell un o'r hen drigolion. O'r fan lle y saif y London Warehouse i