Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r un modd y gwneir o'r tir sydd o'i flaen a elwir square ty'r farchnad. Rhoddir hwn ar delerau, yn ol eu rhif a'u maintioli, i berchenogion dangosiadau (showmen), ac yn fynych yn nhymor haf, gwelir mwy na haner y lle hwn yn llawn gan gerbydau y ffug-chwareuwyr hudolus yma—un a'i bibell, a'r llall a'i dabwrdd—ar eu goreu yn ceisio denu y dorf fyddai yn sefyll o'u blaen, yn sylwi ar eu symudiadau, a chlust-ymwrando ar y twrf fyddai yn cael eu hateb gan furiau yr adeiladau cylchynol! Show rhad; a dau neu dri arall, a'u cegau ar led, ar eu goreu yn ceisio gwerthu mân nwyddau—yn nghyd a thri neu bedwar o faledwyr, a mwy na’u haner yn ddall, wrthi yn ddiwyd, yn canu baledau Dic Dywyll, neu rywun arall, fel y gall yr anghyfarwydd gredu braidd ei fod wedi disgyn i ryw le annaearol, a braidd na theimlai ei fod, i raddau, yn ddyeithr iddo ei hun!

Tua'r flwyddyn 1793, adeiladwyd y bont sydd ger Gwaith y Gyfarthfa, a elwir Jackson's bridge, a'r bont haiarn gan Watkin George, tua'r flwyddyn 1800, o herwydd fod y bont geryg oedd yno wedi syrthio ar lifogydd mawr, ar ol pedair wythnos ar ddeg o rew caled; dystrywiodd lawer o bontydd coed, ac ysgubai bob peth agos ffwrdd o'i flaen.

Yr oeddy fath gynydd anarferol wedi cymeryd lle yma, gyda chynydd y Gweithiau, fel yr oedd ynddo, erbyn y flwyddyn 1801, y rhifedio 1,404 o dai, 4,273 o wrywod, a 3,432 o fenywod, yn gwneud cyfanswm o 7,705. Tua'r amser hwn, neu ychydig yn gynarach, yr oedd Mr. Maber, vicar yr eglwys, wedi llwyddo i gael gan y Senedd basio gweithred i'w alluogi i roddi allan y tir oedd yn perthyn i'r eglwys, i adeiladu arno, trwy brydlesau; y rhan amlaf o honynt oeddynt dros ysbaid tri bywyd, ac weithiau dros dymor penodedig. Adnabyddir y tir hwn yn gyffredin wrth yr enw Glebeland,[1] lle y saif rhai o'r maelfaoedd harddaf yn Mer thyr yn awr, ac agos yr oll o'r adeiladau sydd rhwng y brif ffordd a'r afon, ac o gwr isaf mynwent yr eglwys

  1. Yma bu farw lolo Morganwg.