Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn achosydd y cythrwil hwn, ysgrifenodd Mr. Crawshay lythyr maith i'r Observer, newyddiadur Seisnigaidd, perthynol yn fwyaf neillduol'i feistradoedd y gweithfeydd, yn yr hwn y dywed nad oedd yn alluadwy iddo ef na'i gyd-feistriaid roddi un codiad yn nghyflogau y gweithwyr, o herwydd sefyllfa farwaidd ac isel masnach yr amser hwnw. A chymeryd hyn o dan ystyriaeth, yn nghyd a'r elyniaeth ddygasol oeddynt yn ei daflu rhwng eu meistri a hwythau, heblaw y canlyniadau peryglus, rhaid addef fod y terfysgwyr wedi cymeryd cynllun hollol annoeth a chwithig. Yn ol yr hyn allwn farnu, yr oedd y terfysg wedi ei gyn-fwriadu gan y dosparth anfoddog o weithwyr yn Mrycheinog, Mynwy, a Morganwg; ac yr oedd eu gwaith yn myned i dy Mr. Fothergill, i Aberdar, idd ei orfodi i arwyddo papur a dystiolaethai nad oedd efe wedi dweyd nad oedd mwnwyr Gyfarthfa yn enill pum swllt yr wythnos yn fwy na'i fwnwyr ef, yn nghyd a rhoi iddynt, dan berygl o golli ei fywyd, yr hyn oedd ganddo o fwyd a diod yn ei dy; a'u mynediad tua'r siop i Aberdar, i orfodi ysiopwr i roddi yr hyn a ofynent allan o'r siop; eu dyfodiad yn ol i Ferthyr i ddinystrio dodrefn oedd yn rhai y ceisbwliaid perthynoli Lys Cyfiawnder, yn nghyd a dodrefn a holl lyfrau Mr. Coffin, ysgrifenydd y Llys; a'u gwaith yn gorfodi y gweithwyr yn y gwahanol weithfeydd, yn weithredoedd plentynaidd, hollol annheilwng o resymolion mewn gwlad Gristionogol. Erbyn dranoeth yr oedd yr Adran 93 o'r Highlanders wedi dyfod i'r lle; a gyda hwy ymunodd Mri. Crawshay, Bruce, a Hill, ac ymsefydlasant ger y Castle Hotel; i'r lle hwn y dilynwyd hwynt gan dyrfa luosog o'r terfysgwyr, gyda phastynau, llaw-ddrylliau, drylliau, &c.; ac er taer geisiadau gan Mri. Hill, Guest, a Crawshay, ar iddynt ymwasgaru a myned yn ol at eu goruchwylion, gyda'r addewid y byddai iddynt hwy dalu pob sylw ag y byddai yn ddichonadwy idd eu cwynion cyn pen 14 dydd, ond y cwbl yn hollol ofer, ni chafodd deisyfiad na chais yr un o honynt ei wrando ond gyda diystyrwch sarhaus; ac wrth ganfod hyn aeth yr uchel sirydd i ben cadair i ddarllen iddynt y