Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Riot Act, pryd y rhuthrwyd ar y milwyr gan gymeryd eu harfau trwy orthrech oddiarnynt; yn yr ysgarmes clwyfwyd tua 16 o honynt fel ygorfodwyd iddynt ymwthio imewn i'r Castle Hotel, lle y saethasant trwy y ffenestri at y terfysgwyr, pryd y lladdwyd tuag 16 o honynt er na pharhaodd yr ymrysonfa ond tua chwarter awr. Parhaodd y terfysgwyr i saethu at y ty dros yspaid o amser ar ol hyn, ac aeth un belen i fewn i'r fynedfa-gefn heibio yr uchel sirydd a Mr. Crawshay. Teimlai y boneddwyr eu hunain yn y ty mewn sefyllfa wir beryglus, a thua'r hwyr symudasant tua Phendaren House, dan gysgod y milwyr oeddynt heb eu clwyfo o'r Highlanders, yn nghyd a 50 o'r Glamorganshire Militia, dan Cadben Powell,' a Major Richards, gyda Llantrisant Cuvalry, oeddynt newydd gyrhaeddyd i'r lle, gan gludo gyda hwy y milwyr clwyfedig o'r Highlanders.. Parhaodd y terfysgwyr mewn agwedd gyffrous o hyny tan y boreu, a bytheirient fygythion y byddai iddynt dynu ty Mr. Crawshay i lawr; y bygythiad hwn, yn nghyd a dysgwyliad am ail ymosodiad,a barodd i'r milwyr a'r boneddigion fod mewn dyfal wyliadwriaeth trwy y nos a'r dydd dranoeth. Y cam nesaf eto a gymerodd y terfysgwyr oedd, myned i ffordd Aberhonddu, i rwystro adgyfnerthion na chyflenwad ddyfod y ffordd hono i'r milwyr oeddynt yn barod yn Merthyr; a thua'r mynegfys ar fynydd Aberdar, i luddias milwyr dysgwyliedig o Abertawy, y rhai a gyfarfyddasant ac a gymerasant eu harfau oddiarnynt, gan wneuthur i'r rhan amlaf o honynt, os nad yr oll ddychwelyd yn eu holau; hyn yn nghyd a'r cyfarfod mawreddog a gynaliasant ar y Waun y dydd Llun canlynol, lle y barnwyd y gallasai fod yn wyddfodol tua 20,000 o ddynion o weithfeydd Brycheiniog, Mynwy, a Morganwg; ac i'r dyben o geisio eu hymlid a'u gwasgaru, er ymgais gosod y terfysg i lawr, aeth y milwyr, yn cael eu gwneyd i fyny o 110 o'r Highlanders, a 50 o'r Glamorganshire Militia, & 300, Yeoman Cavalry, o dan lywyddiaeth Cadben Morgan, yn cael eu dilyn gan yr ynadon; ac erbyn eu bod yn Dowlais yr oedd yr heolydd wedi eu llenwi gan y terfysgwyr. Cyrhaeddasant y lle, ac anerchodd Mr.