Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANESIAETH GYFFREDINOL

Wedi i'r ystorm aflwyddianus hon fyned heibio, a'r cleddyf gael ei roddi yn y wain, duwies rhyddid a heddwch gwhwfanu eu banerau yn awelon tyner y dydd uwchben y gweithiau a chartrefleoedd y meistri, aeth pethau yn mlaen yn llwyddianus fel cynt; ond heb enill yr un fantais i'r naill na'r llall o'r pleidiau ymrysonawl. Ac os enillwyd rhywbeth, oerfelgarwch a gelyniaeth ddiymwared oeddynt y cyfryngau a ddangosir gan y nail! a'r llall tuag at eu gilydd. Ond rhaid i ni adael hyn yn bresenol, a throi ein hwynebau yn ol i'r flwyddyn 1815, er mwyn rhoddi cyfle teg i'r darllenydd ffurfio dirnadaeth gywir o gynydd y lle. Nid oedd yma y pryd hwnw ond 23 o dafarndai yn y cwbl, 1 darllawdy, 12 o faelfaoedd, 5 cigydd, I swyddfa argraffu, 2 oriorydd, a 2 ariandy. Erbyn 1863, yr oedd yma 305 o dafarndai, a 99 o'r rhai hyny a thrwyddedau i werthu gwirodydd poethion, 8 darllawdy, 161 0 fuelfaoedd, 2 ariandy, 5 swyddfa argraffu, a 54 o gigyddion.

Yn y flwyddyn 1802, cafodd Merthyr yr anrhydedd o roesawi Arglwydd Nelson, yn nghwmpeini yr Arglwyddles Hamilton, ciniawodd yn y Star, a rhoddodd gini rhwng y gwyddfodolion iddynt gael yfed iechyd da iddo yn yr iaith Gymreig: yn y cyfamser pan oedd yn edrych drwy y ffenestr, adnabyddodd ddyn o'r enw William Ellis, yr hwn a'i gwasanaethodd ar y mor, galwodd arno wrth ei enw, a rhoddodd gini iddo yntau, iddo gael yfed iechyd da idd ei hen feistr. Teimlid cryn ddyddordeb gan drigolion y lle yn ymweliad y mor-ryfelwr enwog hwn, ac i'r dyben o ddangos hynny pan oedd Nelson yn myned heibio, taniasant gyflegr ger yr odynau calch, yr hyn yn anffodus a ddygwyddodd fod yn achos marwolaeth i fachgenyn bychan oedd llaw; o'r herwydd hyn teimlodd yr Arglwyddes yn wir ofidus, fel y rhoddodd £8 i'w berthynasau tuag at dreuliau ei gladdu yn anrhydeddus. Ymadawodd Nelson oddiyma yn orfoleddus, ond i beidio dychwelyd mwy, oblegyd yn mhen tair blynedd syrthiodd yr arwr rhyfedd hwn yn mrwydr fythgofiadwy Trafalgar.