Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

le eilwaith mewn cysylltiad a'r lle hwn, pan adnewyddwyd prydles y Gwaith. Try-oleuwyd y dref a'r gymydogaeth gan ganwyllau a nwy, a rhoddwyd amryw areithiau grymus, a bloeddiadau gorfoleddus i'r perchenog William Crawshay, Ysw, Caversham Park, Llundain, yr hwn sydd yn awr mewn gwth o oedran, a phan gwnaeth ei ewyllys yn ddiweddar, dywedir ei fod yn werth myrddiwn a haner o bunau.

Cafodd y lle hwn hefyd yr anrhydedd yn ddiweddar o roesawi yPrince of Orange,pan ar ei daith drwyGymru.

Eto, at y cyfarfodydd mawreddog sydd wedi cael eu cynal yn Merthyr, ar wahanol adegau ac achosion, gwnawn goffa yr un mawreddus a gynaliwyd yn nhy'r farchnad,tua thair blynedd yn ol, pryd y pregethodd y Parch. C. H. Spurgeon i dorf o amryw filoedd o wrandawyr astud ac ystyriol; a diau у siaredir am y cyfarfod hwn yn mhen canrif eto, fel peth neillduol hanesiaeth yn y lle.

Yr oeddem yn awr wedi dilyn, nes oeddem o flaen ein hanes; oblegyd yn y flwyddyn 1849, ymwelwyd a'r lle hwn gan y geri marwol, ac ysgubodd oddiyma i'r byd mawr tragywyddol y nifer syn o 1,432 ' Nid oedd nemawr dy yn dianc heb brofi pwys y fflangell geryddol hon! Yn fynych byddai dau neu dri yn cael eu cymeryd yn glaf yn yr un teulu, a hyny ar yr un pryd, heb ond yn anaml un yn gwellhau. Cludid rhai ar gerti, tua'r gladdfa, o ganol gruddfanau ac ocheneidiau torcalonus y gweddwon a'r amddifaid, tra byddai ereill i'w clywed yn ymdrechu yn y bangfa olaf, dan ddirdyniadau arteithiol brenin braw! Diblantwyd torf o Racheliaid, a chymerwyd llawer gwr o fynwes ei wraig, a gwraig o fynwes ei gwr, a'r ddau yn aml oddiwrth eu rhai bychain, yn analluog i wneud drostynt eu hunain! Dyma'r amser y gwnawd mynwent ar Bant-coed-Ifor; o herwydd nad oedd caniatad, na lle i'w claddu yn un o fynwentydd y dref. Hyn fu yn llawer o'r achos i ddwyn y Bwrdd Iechyd i Ferthyr Tydfil, yr hyn a gymerodd le yn 1851; ac er fod perchenogion tai yn cael talu yn ddrud tuag ato, mae wedi gwneud gwelliantau rhyfeddol yn y 10 mlynedd