Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diweddaf, yn nghynlluniad tai, a glanhad heolydd, fel y mae mewn gwell sefyllfa, er lles iechyd y preswylwyr, nag y bu er ys ugeiniau o flynyddoedd. Un o'i brif hynodion, yn y tair blynedd diweddaf, ydyw gosod ffordd i gludo dwfr o Daf fechan i Ferthyr, &c.; mae ar waith yn awr i gario dwfr i Abercanaid a Throedyrhiw, a diwalla yn bresenol y rhifedi o 1,500 o dai, rhwng Dowlais, Penydaren, a Merthyr. Cynwysa y cronbwll, a wnawd yn Cwmtaf-fechan, tuag at ddiwallu y lleoedd a enwasom, yr ystorfa o 60,000,000 o droedfeddi cyfuddol o ddwfr. Costia y Gweithiau Dwfr yma, erbyn eu gorphen, y swm 0 £80,000, ac mae treuliau blynyddol y Bwrdd Iechyd yn Merthyr tua £2,000, a'r symiau hyn yn cael eu casglu trwy drethoedd oddiar berchenogion tai, &c., yn mhob man trwy'r plwył. Cariwyd y Gweithiau Dwfr yn mlaen o dau arolygiaeth Mr. John Lewis, Cymro serchog a charedig.

Nid ydyw Merthyr Tydfil wedi ei chorffori yn dref hyd yn hyn, ond pe buasai y diweddar Syr John yn cael byw i ddwyn ei gynlluniau a'i amcanion i derfyniad, diau y buasai wedi llwyddo i wneuthur hyny cyn yn awr. Ond nid ydyw yn ol yn ei manteision i nemawr dref yn Nghymru. Medda ei maelfaoedd harddwych a rhadlawn—ei masnachdai prydferth a chyfleus—ei ariandai—a'i llythyrfa, o'r hon y rhenir llythyrau ddwy waith yn y dydd, ac y derbynir rhai i mewn ac y trosglwyddir rhai allan i bob parth o'r byd adnabyddus; y derbynir ac y trosir arian, &c.Medda hefyd ar Lys y man-ddyledion, yn nghyd a Llys yr Ynadon. Enwau y rhai fuont yn gwasanaethu yma sydd fel y canlyn:—Richard Crawshay, Ysw., Vicar Maber, Bruce Price, Ysw., Syr J. J. Guest, Jones, Ysw., Hill, Ysw, Thomas, Ysw., Henry Awstin Bruce, Ysw., Fowler, Ysw., a'r rhai hyn, gan mwyaf, yn ddynion tra chymeradwy ac addas i'w swyddau pwysig a chyfrifol. Medda hefyd ar fwrdd Undeb,[1] i'r hwn y

  1. Bu Plwyf Llanwono yn yr undeb, ond tynodd yn ol yn ddiweddar