Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dewisir dau aelod yn flynyddol, o'r plwyfau undebol, i wasanaethu, yn nghyd a tua haner dwsin, neu ychwaneg, o'r plwyf hwn.

Gorphenwyd y Tyloty perthynol i'r undeb yn Merthyr, yn y flwyddyn 1853, a chymerwyd tylodion i mewn iddo ar yr ail wythnos o fis Awst, yn yr un flwyddyn. Eu rhifedi, yn ol y cyfrifiad diweddaf, 1863, yn nghyd a'r rhai yn derbyn tâl tu allan, oeddynt 1786, a 51 o grwydriaid (tramps). Treuliau blynyddol y Tyloty, yn mhob cysysylltiad sydd yn cyrhaedd y swm o £28,000, y rhai a wneir i fyny trwy drethoedd, yn amrywio o swllt i un geiniog ar bumtheg y bunt ar berchenogion eiddo yn mhlwyf Merthyr; a'r symiau blynyddol a godir yn y plwyfau ydynt yn yr undeb sydd fel y canlyn Merthyr, £4,188, Aberdar, £2,513, Gelligaer, £787, Vaenor, £173, Penydaren, £172, Rhigos, £80. Yr oedd yr hen gyfaill Richard Williams, alias, Dic Dywyll, wedi dyweyd mewn gan broffwydoliaeth o'i eiddo am adeiladu Tyloty yn Merthyr, fel y canlyn :

"Bydd hwch y Crown yn dyrnu haidd,
A Beni'r gwaudd yn geffyl,
Cyn delo Workhouse byth i ben,
O fewn i Ferthyr Tydfil."

Llefarodd y geiriau uchod oddiar fod llais y wlad yn ei herbyn; ac yn wir, nid ydyw yn hollol ddystaw eto, am y dygir aml achwyniad yn erbyn camymddygiadau yr arolygwyr at y tylodion.

Gresyn i neb o'r uwchradd edrych yn isel a sarhaus ar ddyn neu ddynes, hen neu ieuanc, o herwydd ei dylodi! Dyn yw dyn er hyn oll.

Mae Merthyr wedi bod yn fagwrfa i amryw gerfwyr ac arlunwyr tra enwog. Yo mblith y cerfwyr cofnodwn Mr. Joseph Edwards; ymadawodd o'r lle hwn i drigianu yn Llundain. Mr. Joseph Williams, lluniwr ac arluniwr tiroedd, &c. ; yr oedd yn fud a byddar; bu farw yn mis Mawrth, 1844, yn 52 mlwydd oed. Mr. Penry Williams, lluniwr ac arluniwr tiroedd, &c; ymadawodd o'r lle hwn am Rufain, lle mae wedi treulio