Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gymydogion i'r lle hwn oddiar pan unwyd cledrffordd y West Midland Railway a'r Taff Vale, yn Mynwent y Crynwyr, yr hyn a gymerodd le ar y 25ain o Ionawr, 1858; ac agorwyd y gledrffordd i Fynwent y Crynwyr o'r Mountain Ash, i drafnidaeth yn unig, ar y 14eg o Dachwedd, 1863.

Ar brydnawn, yn y flwyddyn hon, 1863, talasom ymweliad á mynwent hen Eglwys St. Tydfil i'r dyben o gael rhai o'r dyddiadau hynaf o'i mewn; a llwyddasom i ddyfod o hyd i un goffadwriaeth tu fewn i furiau yr eglwys, a'r dyddiad o 1758, ac un arall, tu allan, yn ymyl y mur, ar yr ochr orllewinol i'r fynwent; ar gareg lwydaidd wedi ei darnio yn ddau, yr oedd y dyddiad o 1740. Parodd hyny i mi gofio am benillion "Bedd y dyn tlawd," gan Ioan Emlyn, pan yn dyweyd

Mae'r garreg arw a'r ddwy lythyren
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw ;
A phan ddelo Sul y blodau,
Nid oes yma gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail a phwysiau
Ar lwm fedd y dyn tylawd

Anhawdd i ymwelydd osod troed i lawr yn y fynwent hon heb sangu uwch llwch rhyw fod dynol a fu unwaith mor iach ac hoenus a ninau, a'r rhan amlaf o'r rhai hyny oeddynt frodorion o'r plwyf hwn. Wrih sylwi uwch y gladdfa hon gellir ffurfio rhyw ddirnadaeth wanaidd o'r trychineb a'r galanas mae'r gelyn olaf wedi ei wneud ar y teulu dynol, fel ag y mae yn anhawidd ymgadw rhag tori allan i wylo uwchben y dorf ddystaw sydd yma yn gorwedd er ys canoedd lawer o flynyddoedd yn tawel huno. Gellid meddwl wrth olwg rhai o'r beddau fod angeu wedi ysgubo i'r byd tragywyddol yr oll o berthynasau amryw o feirwon y fynwent hon, neu mae meithder amser wedi rhoddi caniatad i ddwyn angof i mewn i law ddirgelaidd anian i wneud y beddau yn gydwastad a'r llawr, a phlanu arnynt wyrdd-lysiau i roesawu gwlith y nen, i addurno'r fan y gorweddant.