Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth gerdded yn ol ac yn mlaen yn eu plith, yr oedd penill, o gyfieithad yr enwog Davies, Castell Howel, o'r "Grey's Elegy," yn taro ar ein meddwl

"Yma gorwedd yn y graian
Efallai lawer fuasai'n llawn
O wir rywiog flamiau'r awen
A phrydyddol ddenol ddawn,
Dwylaw allasent lywio teyrnas
A theyrnwialen ar ryw thrôn,
Dawn a dwylaw diwniai'r delyn
I lesmeiriol dyner dôn."

Gadawn y lle hwn yn awr, a chymerwn ein cyfeiriad i lawr tua Throedyrhiw, Wrth fyned allan o'r pentref, yr ydym yn croesi'r clawdd a wnawd yn yr amser y cychwynodd Mr. Richard Hill ei Weithiau tuag at eu diwallu a dwfr. Uwch ein pen mae pont y gledrffordd ogwyddol sydd o Ddowlais i'r Taff Vale, dros yr hon y buwyd yn cario teithwyr am rai blynyddoedd hyd nes i ddamwain ofidus gymeryd lle trwy i'r rhaff dori, a gollwng rhyw nifer o gerbydau i fyned yn deilchion, yn nghyd a thri neu bedwar o deithwyr gyfarfod a'u hangeu disymwth. Dros hon yn bresenol y trosir trafnidaeth Dowlais a'r Taff Vale. Ychydig yn is i lawr, ar yr aswy i'r brif- ffordd, mae hen dy Mr. Hill, yr hwn oedd yn dafarndy er ys 50 neu 60 mlynedd yn ol. Yn is i lawr eilwaith, yr oedd tafarn tua'r un amser yn y ty lle y bu D. Joseph, Ysw., arolygwr Gweithiau Pentrebach. Ar yr ochr orllewinol i'r afon mae i'w weled Cwmcanaid. Cafodd yr enw oddiwrth felin-ganu fu yn y lle. Cyn yr amser hwnw arferid ei alw yn Cwmyglo, am mai yno, yn ol pob tebyg, oeddid yn arferol o gael glo yn yr hen amser. Abercanaid, neu Abercaned, sydd bentref bychan, wedi derbyn ei enw oddiwrth aber, lle ymuna yr afon Caned a'r afon Taf. Mae y lle hwn yn ddarnodiad o ddiwydrwydd yr 20ain mlynedd diweddaf. Yn ei ymyl mae glo bwll y graig, perthynol i Mr. William Rees, ac y mae yma amryw o lo byllau ereill, megys y Waunwyllt, perthynoj i Jenkins, Gethin, a Chastell-y-wiwer, &c., i'r Crawshays. Cymerodd tanchwa echryslawn le yn nglo bwll y Gethin ar y 19eg o Fawrth, 1862, pryd y