Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn yn ei nerth a'i rhwysgfawredd fel pe am herio nerth yr oll o breswylwyr y dydd; a'r afon Taf yn ddysglaer ymddolenu rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion, dros wastadedd paradwysaidd y Dyffryn, tra mae mwg peirianau a ffwrnesau, yn nghyd a mwg miloedd o dai yn esgyn i fyny yn unionsyth tua bro asur. Gwelid dynion wrth yr ugeiniau, yn wyr traed, marchogion, a cherbydwyr, yn brysio yn mhob cyfeiriad; a chlywed cloch yr Eglwys yn rhoddi cnul oernadol i arwyddo marwolaeth rhywun, tra byddai'r awrlais su rhifo'r oriau, a thwrf syfrdanol olwynion masnach yn taro'n ddiorphwys ar y glust. Yn y nos, wedi i emrynt y dydd gauad ar ein gwlad, a mentyll y ddunos ei hamdoi i ddwyn dystawrwydd pruddaidd dres goedwigoedd, glynau, a mynyddoedd, gwelid mil a mwy o fân oleuadau yn gwingo yn mhob cyfeiriaifiachiadau rhuddgochion a brochus yn dyrchafu o eneuau yr amrywiol ffwrnesau—dynion i'w gweled yn ol ac yn mlaen rhyngom a goleuni y tanau a'r fflamiau—swn morthwylion ac olwynion, yn nghyd ag ambell screch oernadol gan y llifau, a thwrf dwfnddwys y peirianau yn clecian yn ddiarbed ar y glust, fel y gellid meddwl fod Vulcan-gof-duw dychymgol y Groegiaid wedi cynull ei alluoedd i'r un man er mwyn dychyrynu teithwyr ac ymwelwyr. Gwelir goleuni y Gweithiau hyn yn taro ar yr wybren ddeg neu bumtheg milltir o'r lle, am hyny, nid rhyfedd i'r golygfeydd mawreddog hyn gynhyrfu plant yr awen ydynt wedi cael eu tynu drwy bair Ceridwen, i ganu yn y dull a ganlyn—

"O'i thywyll weithfeydd eang,
O ddyn byw! Clyw, clyw y clang;
Goleuni'r ffwrnesau drwy'n hoff fro isel,
Hed yn llif rhuddaur dros gaerau'r gorwel;
Mynwes y nefoedd o'i mewn sy'n dân ufel;
Gloewodd y tywyll wagleoedd tawel;
Hwynt yn awr ynt un oriel--lewyrchus,
O'r bryniau iachus i'r wybren uchel."

Edrych ar y drych eirian—rhyw ddunos
Arddun yw'r olygfan;
Ail ydyw'r fflamwawr lydan
I urddas dinas ar dan, —Dewi Wyn o Esyllt.