Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ystyr Gymraeg, —

Tydfil, santes, tywysoges, a merthyr, a ddanfoniwyd at yr hwn oedd mewn awdurdod o drefnu pethau, ac a ddyfethwyd, ac yn ebrwydd ei henaid ffyddlon a ddyrchafodd i fyny i'r nefoedd, ac yma mae ei chorff yn gorwedd.

Gadawn i'r darllenydd farnu drosto ei hun mewn perthynas i'w gywirdeb.

Mae yn ngodreu plwyf Merthyr weddillion dau Gapelau Eglwysig nad oes braidd gymaint a thraddodiad wedi ei drosglwyddo i lawr i'r oes hon am danynt Capel y Van a adeiladwyd ar Gefn y Van, yr hwn sydd fryn uchel, yn perthyn i Mr. Jenkins, Abervan-fawr, yn y plwyf hwn. Dewiswyd y fan hon i adeiladu arno, am ei fod yn gyfleus i breswylwyr Cwm-cynon, yn gystal a Chwm-Taf,[1] ac am ei fod yn fan noeth, rhwng cymoedd a gelltydd disathr ac anhygyrch. Yn arwain tuag ato, ar yr ochr orllewinol, mae rhiw ag sydd yn cael ei galw hyd heddyw Rhiw'r-Capel, yr hon oedd yn y cyfnod hwnw ar gwr uwchaf gallt fawreddog—olion o'r lleoedd oedd ei choedydd yn cael eu gwneud yn olosggoed sydd yn ganfyddadwy yno hyd heddyw. Capel y Fforest-gweddillion yr hwn, yn nghyd a thy anedd, a mynwent sydd yn gorwedd mewn ychydig bant ar y mynydd, rhwng Taf a Bargoed, tua dwy filltir i'r dwy. rain o Droedyrhiw. Tebygol i hwn gael ei adeiladu gyfnod yn ddiweddarach na Chapel y Van; o herwydd mae traddodiad yn dyweyd wrthym fod pregethu wedi bod ynddo er ys tua 200 o flynyddoedd yn ol, a bod dwy hen ferch weddw yn byw yn y ty perthynol i'r capel, y rhai a symudasant oddiyno i ryw le tua deheubarth y swydd hon, pan y rhoddwyd i fyny bregethu yn y lle, rywbryd yn amser Cromwell. Mae swm o arian wedi eu gadael yn y drysorfa eglwysig tuag at ei ailadeiladu, ac y mae siarad wedi bod yn ddiweddar, yn mhlith yr eglwyswyr, am ymaflyd yn y gorchwyl, ond y mae yn aros hyd yn hyn yn ddigyfnewid. Eglwys Verthyr, sef St. Tydfil, a adeiladwyd yn y flwyddyn A.D. 1807, a'r clochdy yn 1829, yr hwn

  1. Meddylia rhai iddo gael ei adeiladu er mwyn cyfleusderau i weithwyr Haiern Gweithfa Pontygwaith.