Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gynwysa awrlais oleuedig er rhoddi mantais i'r trefwyr ganfod yr awr a'r fynyd o'r nos yn gystal a'r dydd. Ac wrth dynu i lawr yr hen eglwys, yr hon oedd yn sefyll ar yr un sefyllfan a'r un bresenol, deuwyd ar draws arch gareg, yr hon a ffurfiai ran o'i sylfaen, ac ynddi ysgerbwd rhyw fod dynol o hyd anghyffredin. Bernir mai gweddillion un o'r tri brawd cawraidd oedd, a adeiladasant y mur mawr, heb un goed-daflod (scaffold), yr hwn sydd o 12 i 13 troedfedd o uwchder, ger Caerdydd, hyd heddyw, ac yn cael ei galw Mur y tri Brawd. Gosodwyd hi tu allan i furiau yr eglwys, ac mae'r Llythyrenau sydd yn gerfiedig arni wedi bod o bryd i bryd yn destyn sylw llawer o hynafiaethwyr.

Periglor presenol yr eglwys hon yw y Parch. John Griffith, a'r fywoliaeth sydd guradaeth barhaus yn Urdd-ddiaconiaeth ac esgobaeth Llandaf. Ei gwerth blynyddol sydd tua £1,700, ond y mae rhan helaeth o'r swm yma yn cael ei gwneud i fyny trwy dir-dal y Glebeland. Cyfarfodydd Cymreig am 11 yn y boreu, a 6 yn yr hwyr, ac yn Seisnig, am 3 yn y prydnawn.

Eglwys y Gyfarthfa a adeiladwyd gan Richard Crawshay, Ysw. tua dechreu y ganrif bresenol. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Howell. Cyfarfodydd am 11 a 6 yn yr hwyr.

Eglwys Dowlais a adeiladwyd yn y flwyddyn 1827. Gwasanaethir hi yn bresenol gan y Parch. John Jones. Cyfarfodydd Cymreig am 9 a 3 yn y prydnawn, a Seisonig am 11 a 6 yn yr hwyr.

Eglwys St. David, Heol fawr, Merthyr, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1846, ac a agorwyd Medi yr 8fed, 1847. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Griffith, periglor. Cyfarfodydd yn Seisnig am 11 a 6.

Eglwys George's Town a adeiladwyd tua'r flwyddyn 1859. Gwasanaethir hi gan y Parch. J. Howell.

Eglwys Pentrebach a adeiladwyd gan A. Hill, Ysw. Gwasanaethir hi gan y Parch. John Green.

Eglwys Troedyrhiw a adeiladwyd ar draul yr un boneddwr. Curad, y Parch. T. Thomas.

BRASLUN O DDECHREUAD, A CHYNYDD YMNEILLDUAETH YN Y PLWYF HWN.

Yr ydym yn wir falch o'r cyfleusdra o gael hamdden