Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y WESLEYAID

Capel Pontmorlais a adeiladwyd yn y flwyddyn 1797. Gweinidog, y Parch. Mr. Lewis. Cyfarfodydd am 10. a6. Siloh a adeiladwyd yn y flwyddyn 1830. Cyfarfod ydd am 10 a 6. Siloh, eto, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1845. Cyf. arfodydd am 10: a 6.

Capel y Wesleyaid Seisnig a adeiladwyd yn y flwyddyn 1830. Cyfarfodydd am 10½ a 6.

Capel Troedyrhiw. Cyfarfodydd am 10 a 6.

YR UNDODIAID

Capel Twynyrodyn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1821. Gweinidog, y Parch. Mr. Williams. Cyfarfodydd yn yr haf am 11 a 6.

Y PRIMITIVE METHODISTS

Capel Burnell's Field a adeiladwyd yn y flwyddyn 1847. Cyfarfodydd am 10½ a 6.

Capel eto, a adeiladwyd,yn y flwyddyn 1846. Cyfarfodydd am 2½ a 6.

Cynalia yr Iuddewon gyfarfodydd yn nhy Mr. Barnett, Heolfawr, bob prydnawn dydd Gwener a dydd Sadwrn, am 8 yn y boreu, a 2 yn y prydnawn.

Capel y Pabyddion, Gellifaelog, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1846. Offeren am 9½ , a phregethu am 10.

Cyfrifir y cynwysa yr oll o'r capelau a enwasom tua 11,346 o aelodau yn 1863, a 11,000 o ysgolheigion yn yr ysgolion Sabbathol. Ac i'r dyben o roddi cyfle teg i'r darllenydd ffurfio dirnadaeth gywir a gynydd a mawredd y lle yn ei fanteision crefyddol, rhoddwn y daflen ganlynol i lawr,—

Ac er fod annuwioldeb yn uchel yn Merthyr, a mor uchel feallai ag unrhyw barth o Gymru! a dwyn dan ystyriaeth y manteision mawreddog mae rhagluniaeth y nef wedi estyn i'w breswylwyr, gyda gradd o hyfrydwch, ymffrostiwn yn ei grefyddolder, yr hon sydd goronbleth odidog ar ei ben, fel y gellir dyweyd am dano, "Lle yr