Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras." Mae yn Merthyr hefyd rai o'r cantorion enwocaf yn eu hoes, ac yn eu plith gwnawn enwi Ieuan Gwyllt, Rosser Beynon, (Asaph Glantaf), Cerddor Tydfil, a Tydfilyn, fel y gallwn farnu fod cerddoriaeth mewn cymaint bri ac anrhydedd yma ag unrhyw dref rhwng bryniau cribog Cymru.

BYRDRAETH AR SEFYLLFA ADDYSG A LLENYDDIAETH YN Y PLWYF.

Yn ngodreu y plwyf, er ys tua thriugain a deg o flynyddoedd yn ôl, nid oedd yma yr un ysgol ddyddiol na Sabbathol, ac anfonid yr ychydig blant oedd yma y pryd hwnnw i ysgol a gynhelid yn Nghraig y Fargoed; ac felly, yr oedd gan yr ysgolheigion i gerdded tua thair milltir foreu a hwyr. Yr ysgolion cyntaf yn Merthyr, o unrhyw sylw oeddynt yr Ysgol Rydd, ger y Tanerdy, a gedwid ar draul y plwyf -Ysgol yr Ynysgau, Ysgol George Williams, ac Ysgol David Hughes, ger Capel Seion. Yn y flwyddyn 1815, nid oedd yn y plwyf ond pedair o ysgolion dyddiol, yn cynnwys tua 250 o ysgolheigion. Yn 1845, yr oedd 32 o ysgolion, heblaw rhai Dowlais. Cynwysent rhwng 6,000 a 7,000 o ysgolheigion. Un o'r rhai goreu a ystyrir yn y lle hwn ydyw Ysgol Tydfil, gan Mr. E. Williams. Ond y mae yma amryw ereill o ysgolion gwir dda yn anibynnol ar y gwahanol ysgolion a gynhelir yn rhannol gan gwmni y gweithfeydd a'r gweithwyr; y rhai hyn oll ydynt ar gynllun cenedlaethol, yn cael eu llywodraethu yn bennaf gan gynrychiolwyr yr Eglwys Wladol. Trefnodd y diweddar A. Hill, Ysw amryw o ysgolion buddiol a daionus yn ei ddydd ac yn eu plith Ysgol y Pentrebach a Throedyrhiw; ar gyfer yr olaf, dechreuodd ar y gwaith o adeiladu ysgoldy eang a chyfleus, ond cyn iddo gael ei orphen, symudwyd ef gan angeu i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw; gan hynny, disgynnodd y draul, a'r gofal o'i orphen ar y cwmpeini newydd, Hankey, Bateman, &c. Y peth pennaf sydd gennym i rwgnach o'i herwydd mewn cysylltiad ag addysgiaeth yw, nad oes yma yr un Ysgol Frytanaidd o fewn y plwyf, yr hon a allai fod o fawr wasanaeth mewn ardal mor boblogaidd ac Ymneillduol a Merthyr. Hyderwn y cymer rhyw rại hyn dan eu hystyriaeth, fel y ceir un dda, er mwyn ychwanegu eto at fanteision y do ieuanc sydd yn codi.

Y Neuadd Ddirwestol sydd adeilad hardd, adeiladwyd yn y flwyddyn 1852, ac y mae wedi bod yn faen-tynfa y bardd a'r llenor, &c., bellach er ys llawer o flynyddoedd.

Y Llyfyrgell sydd yn Thomas Town, lle derbynnir i fewn newyddiaduron dyddiol ac wythnosol yn nghyd a