Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwysgfawr yn Nhy'r Farchnad, pryd oedd yn wyddfodol rai o brif feirdd, llenorion, a cherddorion Deheudir Cymru, yn cymeryd rhan yn eu gwasanaeth. Enillwyd gwobrwyon o tua £20 gan rai o'r gwahanol fuddugwyr, yn eu mysg yr oedd Llew Llwyfo ar Gwenhwyfar. Nid oes ond dau Newyddiadur yn cael eu hargraffu yn Merthyr, sef y Merthyr Telegraph a'r Merthyr Star. Yn awr yr ydym yn terfynu ein hanesiaeth, gyda dweyd ein bod wedi gochel pob peth a allasai daflu anfri ar y lle i'r oes a'r oesau a ddel, heb eu dwrn i fewn o gwbl, oblegyd ystyriem na fuasai hynny o nemawr ddyddordeb i wedi cofnodi thai ystadegau, &c., yn anghywir, gwnaeth unrhyw ddarllenydd ystyrbwyll a difrifol. Ac os ydym am hynny mewn amryfused ", trwy gael ein camarwain gan rai a styrient eu hunain yn gywir yn hynny o hwne. Gan hynny, dymunem ar i ti ddarllenydd ymddwyn atom yn ôl fel y dymuni i Farnwr byw a meirw ymddwyn atat tithau ddydd y frawdlys olaf,

CYNWYSIAD
Rhagymadrodd
Y dull y cafodd Merthyr yr enw
Hanesiaeth y Court House a Chastell Morlais
Yr arglwyddi boreuol o'r plwyf a trosiad eu hetifeddiaethau i'r arglwyddi presennol
Enwau y tyddynod-eu perchenogion a'u deiliaid
Cofrestr rai o'r teuluoedd hynaf a pharchusaf yn y plwyf
Trem ar arwynebedd y plwyf
Haiern weithfeydd y plwyf
Gwaith y Gyfarthfa-trefniad y brif ffordd a'r gamlas
Yr hen dy ger gwaith y Gyfarthfa, elw etifeddion Bacon, &c
Gwaith Penydaren House a Adeiladiad y Penydaren Mansion House a gwneuthuriad y ffordd haiarn i'r Basin
Gwaith Plymouth
Cyfoeth mwpol y plwyf
Golygfa ddychymygol ar y lle bedair canrif yn ôl
Terfysg 1800
Eto 1831.
Hanesiaeth gyffredinol
Yr Eglwy, Wladol Dechreuad a chynnydd Ymneillduaeth
Addysg a llenyddiaeth

ARGRAFFWYD GAN J, T. JONES, ABERDAR.