
TRO TRWY'R WIG.
COCH Y BERLLAN.
"Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth yr amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad."
R bwys Ty'r Ysgol, lle caf yr anrhydedd o breswylio drwy oddefiad,—y mae
gwig o gyll, mieri, a drain gwynion,
gydag aml i fasarnen, onnen, bedwen, a
chriafolen yn codi eu pennau yma ac acw. Dyma
gyniweirfan adar. Yma yr ymgymharant, y
nythant, y magant eu cywion; ac yma y canant.
Llawer awr ddifyr a dreulir gennyf yma i
chwilio am eu nythod, i astudio eu harferion, ac
i wrando ar eu cân. Ceir yma y bronfraith, yr
aderyn du, llwyd y gwrych, y brongoch, y peneuryn, yr yswigw, y dryw, y llinos, ehedydd y
coed, yr asgell arian, yr eurbinc, y rhawngoch,
y bullfinch, ac amryw adar ereill.
Beth yw yr enw Cymraeg ar yr aderyn prydferth a elwir gan y Sais yn bullfinch? Yng ngeiriadur y Canon Silvan Evans, dan yr enw, ceir "y rhawngoch," "rhonellgoch," "llost-