Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

masnach, na thlysni'r celfau cain. Y mae wedi bod yn iaith y duwinydd mor hir fel y tybia rhai nas gall fod yn ddim arall. Er ys canrif, iaith esboniad a phregeth fu bron yn gyfangwbl. Am ganrif cyn hynny bu'n iaith cyfieithiadau crefyddol. Cyn hynny canai yr adar ynddi. A chyn hynny, ond syllu arni, gwelir fod digon o ynni ac ystwythder bywyd ynddi i fod yn llafar i bob meddwl creadigol ac yn geidwad pob dyfais gywrain.

Y mae awdwr y llyfr hwn wedi dangos mor dlos yw i'r hwn fynno ddweyd hanes y wig,— bywyd coed a blodau, ac adar. Nid iaith crefydd yn unig yw'r Gymraeg, er mai wrth addoli Duw y mae yn ei gogoniant. Y mae hefyd yn iaith plant ac yn iaith yr ysgol; a gellir dangos drwyddi dlysni a swyn y byd hwn.

Gwna llyfrau Mr. Morgan yr ysgol yn fwy difyr i blant, a bywyd yn fwy dedwydd i ni oll. Danghosant y bywyd rhyfedd sydd o'n cwmpas, rhoddant i ni lygad i weled a chalon i deimlo.

OWEN EDWARDS.
Rhydychen, 1906.