Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ddrws ar ein cyfer, gwelais fod gorchuddlenni dros y ffenestri, a daeth y bechgyn yn ol o'r tŷ gyda chanh wyllau cwyr hirion wedi eu goleuo yn eu dwylaw. Yna gwelsom arch dêl dyn tlawd yn cael ei gario allan, a daeth dau hen ŵr, dau frawd galarus, allan ar ei ol. Rhoddodd y gwragedd heibio olchi, arhosodd pob un oedd yn twyso ceffyl a throl dros palmant, cododd pedwar dyn carpiog y corff, dechreuodd yr offeiriaid ganu, a dyma bawb yn cychwyn.

Yn Llydaw, fel yng Nghymru, caiff dyn tlawd gladdedigaeth barchus. Dilynasom y corff i ystryd gul uchel dywyll, ac yr oedd pob balconi yn yr hen ystryd yn llawn o wynebau difrifol yn edrych arnom, wynebau swynol ieuainc, a hen wynebau gwywedig, melyn. Daethom ar i fyny i eglwys wedi ei chodi'n union dan un o fwaau y bont, wrth droed un o'r colofnau, ac aethom i mewn. Eglwys newydd oedd, ac ni feddai brydferthwch eglwysi henafol Llydaw. Yr wyf yn meddwl mai'r Chwyldroad ddinistriodd ryw eglwys arall ym Morlaix, ac mai dyna'r rheswm pam y codwyd hon. Meddyliwn, wrth ei chymharu â'r hen eglwysi, am aderyn wedi gorfod ail wneud ei nyth pan oedd adeg y defnyddiau drosodd.

Rhowd y corff ar lawr yr eglwys, a chauodd yr offeiriaid arnynt yn y côr, i ganu. Tybiwn fod y bobl yn gweled eu hoffeiriaid ymhell oddiwrthynt hyd yn oed ar lan y bedd; ni chysurent y galarwyr â gobaith gwell, ni wnaent ond oer ganu ffurf — weddiau nad oeddynt hwy eu hunain, hwyrach, yn eu deall. Nid oedd rhyw lawer o urddasolrwydd ar y gwasanaeth, rhai sal iawn oedd y cantorion, ond yr wyf yn credu i mi wneud un darganfyddiad wrth wrando arno. A dyna oedd, mai'r gwasanaeth claddu Pabyddol ydyw Morfa Rhuddlan. Ni allwn ysgwyd ymaith yr ymdeimlad fy mod yn gwrando ar gôr o Gymry'n canu'r alaw honno. Ai nid y gwasanaeth claddu yr eid trwyddo wrth ben y marw ar ol y frwydr ydyw'r alaw bruddglwyfus hon? Hawdd oedd i alarnad am y marw droi’n ofid am golli brwydr.