Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O'r eglwys, ail gychwynasom i fyny ystryd serth tua'r fynwent. Yr oedd hon yn rhy serth i'r dynion, ac ni welid ond Ifor Bowen a minnau, a rhyw ffag clonciog o Lydawr cloff, yn dilyn yr offeiriaid a'r merched i fyny'r ystryd.

Daethom i lawr i'r Quai de Léon. Oddiyma y mae Morlaix'n debig iawn i Fenis, tai uchel ar lan afonydd yn y naill, a phalasau yn y llall. Oddiyno cyrhaeddasom le'r Hotel de Ville, a buom yn treio siarad Llydaweg â merched y siopau, ac â'r bobl oedd yn eistedd tan y coed. Pan glywsom sân y tren wyth yn croesi'r bont, fel sŵn taran bell, troisom yn ol trwy'r Place Souvestre, — lle gwelsom hen dai tlysion dan eu heiddew, i ystryd Gambetta. Clywem y plant yn siarad Ffrancaeg, ond wrth chware, rhigymau Llydewig oeddynt yn ganu.

Yr oedd pobl y gwesty'n garedig iawn, pawb yn siarad Llydaweg, ac yn cymeryd diddordeb mawr ynnom. Un peth a'm blinai yno, yr oedd papurau newyddion Paris yn cyrraedd yno bob dydd. Nid oedd Ifor Bowen wedi gweled ond papurau Cymreig a Seisnig o'r blaen, a gwridai wrth weled darluniau papurau Paris. Trwy hanes Ffrainc, y mae dylanwad Paris wedi bod yn bopeth ymron. Gwir a ddywed Mr. Freeman mai Paris greodd Ffrainc. Ac yn awr Paris yw calon bwdr y wlad, — tywallt ei meddyliau anffyddol a llygredig i bob cwr. Melltith Ffrainc ydyw dylanwad Paris ffasiynol bechadurus.

"Nos fad" oedd y gair olaf a glywsom wrth ddringo'r grisiau tua unarddeg y noson honno. A nos fad oedd hi. Yr oedd yr awyr wedi oeri'n braf, agorasom ein ffenestri, a chlywem sŵn dawnsio a chanu'n dod i fyny o ystrydoedd y dref oedd yn gorwedd odditanom. Cysgais a breuddwydiais fod y môr wedi dod dros Forlaix yng nghanol y ddawns a'r wledd, — breuddwyd freuddwydiwyd am lawer lle yng Nghymru ac yn Llydaw.