Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael taith trwy'r mynyddoedd, dywedid wrthym y buasem yn hoff'r mynyddwyr yn fawr, oherwydd eu cariad at brydyddiaeth a thraddodiad. Y mae un traddodiad am Arthur. Dywedir, bryd bynnag y bo rhyfel ar dorri allan, y gwelir Arthur a'i luoedd yn gorymdeithio hyd gopaau y Mynyddoedd Duon acw. Yn rhyfel y Chwyldroad, cenid


GORYMDAITH ARTHUR

Mab y milwr yn y bore waeddai ar ei dad;
"Ar gopâu'r Mynyddoedd Duon wele wŷr y gad.
Rheng 'r ol rheng o wŷr ceffylau, mil o wayw ffyn
Welai draw'n disgleirio'n eglur yn y bore gwyn.
"Arthur yw, fy machgen anwyl, rhaid in baratoi,
Lle mae'r bwa, lle mae'r saethau ? Hoi! I'r gad! Ohoi!"

"Calon am lagad! Pen am brech!
Ha las am blons, ha traon ha ffrech!
Ha tad am map, ha mam am merch!

"March am casec, ha mul am as!
Pen llu am mael, ha den am goas!
Goad am dacrou, ha tan am chwas."

Digon prin y mae eisiau cyfieithu'r gân ddial hon i Gymro,

"Calon am lygad, pen am fraich,
A lladd am friw, ar ddol a bryn,
A thad am fab, a mam am ferch.

"March am gaseg, a mul am asyn,
Cadfridog am filwr, a dyn am was,
Gwaed am ddagrau, a thân am chwys."

Wrth i ni deithio'n araf gydag ochrau eithinog y mynyddoedd tua Dirinon, yr oedd nifer o Lydawiaid yn canu alaw debig iawn i Fugeilio'r Gwenith Gwyn. Gwelem y môr ymhell ac yn dawel dan awyr boeth yr haf, a thu hwnt iddo gwelem amlinelliad gwan traethell Leon ac Ynys y Meirw, fel y gwelir bryniau Dyfneint o fro Morgannwg. Yr oeddwn i mewn rhyw gyflwr hanner breuddwydiol, a thybiais fy mod yn deffro yng Nghymru pan glywais waeddi — "Dowlas." Edrychais am enw yr orsaf — "Daoulas." Y mae