Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac eisteddasom lle mae'r afon yn rhoi tro am odrau'r mynydd. Doi arogl hyfryd y gwair o'r caeau gerllaw, gwelem luniau'r tai gwynion a'r coedydd duon yn y dŵr, a gwelem y Seren Hwyrol yn gwylaidd oeraidd syllu arnom. Dywedodd Jenkin Jones ei drallodion yn Rosporden, a chawsom ryw syniad am yr anhawsterau y rhaid i genhadwyr ymladd yn eu herbyn. Trodd yr ymgom at gangen-ieithoedd Llydaw,— ieithoedd Leon, Treguier, Cornouaille, a Vannes. Wrth i Ifor Bowen a minnau droi tua'n gwesty, tybiem o hyd mai yng Nghymru yr oeddym, ac mewn breuddwyd.