Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan drwy'r eglwys i gladdu rhywun, druan. Aethom allan cyn iddynt ddod yn ol, i lenwi'r eglwys a'u hoergri.

Y mae hen byrth Vannes eto'n aros, a'r muriau y bu'r saethyddion yn sefyll arnynt. Wedi syllu ar yr hen adeiladau, aethom ar hyd y rhodfeydd sydd y tuallan i'r mur, a gwelsom mor hardd yr ymgyfyd muriau llwydion yr hen ddinas o'r gerddi a'r afon sy'n rhedeg o'u hamgylch. Nid oes, ond odid, ddinas yn y byd ag y bu cymaint o warchae arni a Vannes, o amser Iwl Caisar hyd y chwyldroad, ond y mae ei chaerau cedyrn, erbyn heddyw, wedi eu gwneud yn rhodfeydd lle gwelsom blant yn chware ac yn siarad Llydaweg. Oddiar y rhodfeydd hyn, gwelem y gororau Llydewig tua'r de, "Dyffryn Maelor" Llydaw, talaeth Nantes, a buom yn dyfalu a fedrem weled La Roche Bernard ar y gwastadedd bras, y lle cyntaf ddaeth yn Brotestanaidd dan ddylanwad Coligni.

Gyda'r nos daethom yn ol i'r ddinas, a buom yn syllu ar y medelwyr yn dod adre o'r caeau. Cawsom le cysurus yn yr Hotel de Morbihan,-gŵr ieuanc brith wallt oedd y gŵr a biau'r nenbren, Llydawr caredig. Yr oedd yno rai Ffrancod anfoddog yn aros, ac yn gwawdio'r morwynion Llydewig,-gollyngodd Ifor Bowen ei dafod droeon ar y rhai hyn.

Bore haf tawel eto. Wrth i ni fyned allan trwy'r porth, gwelsom flodau cochion yn crogi oddiar yr hen furiau uchel maluriedig; a'r medelwyr, yn ferched ac yn ddynion, a'u crymanau a'u ffustiau ar eu hysgwyddau, yn disgwyl am i rai ddod i'w cyflogi am y dydd. Yr oedd eu gwisgoedd Llydewig, yn enwedig gwisg un hen ŵr hirwallt, yn brydferth iawn. Yr oedd pobl yn dylifo i'r dre, — rhai yn cario dysglau llawn o laeth, rhai'n cario caws fel cerrig melinau, merched yn cario torthau cyhyd a maen hir ar eu pennau. Yr oedd lle iawn wrth y porth i weled gwisg y Llydawiaid elent i mewn i'r farchnad, — yr het felfed gron a'i chynffon hir, y clos pen glin llac, y wasgod addurnedig, y got lâs a gwaith aur arni, yr esgidiau coed fel gên uchaf crocodeil.