Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lle tlawd ydyw Dôl, er ei hened. Papur brith a llyfrau gweddi welais yn siop y llyfrwerthwr. Y mae pob yn ail dŷ'n dafarn,-gwelais un ystafell fawr, a bwrdd derw wedi ei ysgwrio a'i loywi, a thân siriol yn goleuo'r tŷ a'r llestri gloywon; mewn tŷ tafarn arall gwelais werthu sebon mewn un gornel, a thrwsio esgidiau mewn un arall, a photio yn y lall; mewn trydedd, gwelais ddyn unfraich yn canu am ei damaid i ddwy ddynes ; gwelais ferched cadarn yn ymdyrru, a'u crymanau ar eu hysgwyddau, i botio osai a chwrw. Er hynny, pobl gryfion ac ysgafndroed ydyw trigolion dinas Samson Sant.

O Ddôl penderfynasom mai nid yn ol i St. Malo yr aem, ond i Ranville, er mwyn gweled cwr o Normandi cyn troi i'r môr ac adre. Ymysg ein cyd-deithwyr, — milwyr meddwon ac offeiriaid diog, — yr oedd boneddwr yn trafaelio yn ei slipas. Dywedai Ifor Bowen ar ei wir iddo weled pregethwr yn Sir Ddinbych unwaith yn codi tatws yn ei slipas. Daliais sylw ar seremoni gymer le pan fo un Ffrancwr yn cymeryd tân oddiar getyn un arall, a dyma hi, —

1. Nod.
2. Moes ymgrymiad.
3. Cymeryd tân.
4. Nod.
5. Ysgwyd llaw.
6. Moes ymgrymiad.

Ac wedi hynny byddant yn ddieithriaid fel o'r blaen.

Gyda'r nos, yr oeddym yn pasio Pontorson, ac yn croesi o Lydaw i Normandi. Wrth weled y coedwigoedd meddyliasom am William y Gorchfygwr, un fu'n ymladd cymaint ar y terfynau Llydewig cyn dod yn frenin Lloegr, yr heliwr cadarn oedd yn caru'r ceirw tal fel pe bai dad iddynt.' Yr oedd yn hwyr pan gyrhaeddasom yr Hotel Bonneau, y gwesty bach cysurus sydd wrth droed y bryn uchel y saif Avranches arno. Nos Sadwrn oedd, ac yma yr oeddym i dreulio ein Sul olaf ar y Cyfandir, wrth ben Llydaw a'r môr.