Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth awel ysgafn i suo trwy'r coed odditanom, ac yr oedd seindorf filwrol yn chware alawon pruddglwyfus adwaenem mewn parc cyfagos wrth i ni droi i'n gwesty i orffwys.

Yr wyf yn credu fy mod i wedi dysgu y rhan fwyaf o'r ychydig a wn mewn gwestai wrth deithio. Bydd gennyf awr neu ddwy "rhwng min nos a phryd swper," bydd rhyw lyfr yn sicr o fod yn fy nghyrraedd, a chaf rywbeth ynddo dyf yn fy meddwl. Yn y Birmingham Hotel bum yn darllen hanes rhyfel yr Amerig mewn cyfrol o hen bapurau newyddion, ac yn edrych drwy lyfr y gwesty, lle'r oedd gwesteion blynyddoedd wedi torri eu henwau. Pobl ddinod oedd yr ysgrifenwyr i gyd, ond nid oedd eu sylwadau’n hollol aniddorol. Hyd bresych Jersey oedd wedi dal ar feddwl un, rhadlonrwydd tybaco ar feddwl un arall. Yr oedd un wedi cael gorffwystra meddwl, ac un arall wedi cael pys gleision wrth ei fodd. Yr oedd rhyw weddw o Ffrainc yn gweld Jersey cyn dlysed a Pharis, ac yr oedd rhyw Ffilistiad o Sais yn datgan ei lawenydd ei fod yn myned ymaith. Yr oedd Gwyddel wedi canmol cyfreithiau Jersey, Albanwr wedi talu teyrnged i'w hamaethyddiaeth, a geneth Ffrengig wedi dweyd am lygaid gleision ei merched. Hawdd ydyw adnabod yr ysgolfeistr, y prentis siopwr, y penteulu, y morwr, yn y llyfr hwn.*


*Dyma bigion o'r llyfr :-