a dwy Ffrances oedd wedi dod o Le Mans i'r môr. Ni wyddent fawr am Lydaw, ond edmygent y dodrefn Llydewig yn fawr. Holent lawer am Loegr, a gofynasant inni ai gwir yr hyn a ofnent, — nad oeddym ni'n dau'n coleddu'r wir ffydd Gatholig. Cyn i ni orffen esbonio Calfiniaeth iddynt, canodd y gloch ginio. Arweiniwyd ni i ystafell eang drymaidd, y mae gorchudd- lenni gwyn ar holl ffenestri Llydaw, — a chawsom gyfle i sylwi ar wisg y Llydawesau, eu capiau gwyn, eu hwynebau tywyll prydferth pruddglwyfus. Ni siaredir Llydaweg yn y dref, meddent, ond ceir ef yn y wlad oddiamgylch. Ceisiwyd un o weision bach y gwesty, bachgen o'r wlad, a sicrhai ef y cwmni ei fod yn ein deall yn siarad Cymraeg. Rhowd terfyn ar ei Lydaweg gan ddau ddaeth i chware rhywbeth tebig i Godiad yr Ehedydd ar y delyn a'r crwth. Pan ddistawodd y delyn, aethom allan i grwydro drwy'r ystrydoedd. Synnem at uchter y tai, pob un yn bedwar neu bum uchter llofft, ond cofiasom nad oes ond ychydig o le ar y graig gadarn hon, a bod yn rhaid gwneud y goreu o hono. Cul iawn ydyw'r ystrydoedd a budr; teifl pawb yr hyn nad oes arno ei eisiau i'r heol, ac erys hwnnw yno, i wasgar ei ddrygsawr, hyd nes y daw'r glaw'n genllif hyd yr ystrydoedd serth i'w olchi ymaith. Cyn belled ag y mae a fynno carthffosydd â gwareiddiad, y mae Llydaw gan mlynedd ar ôl.
Cyrhaeddasom yr eglwys gadeiriol — y mae St. Malo'n un o saith esgobaeth Llydaw, ac aethom i mewn Y mae pob eglwys Babyddol yn agored bob amser, gellir myned iddi i addoli neu i orffwys. Am eglwysi a chapelau ein gwlad ni, gellid meddwl mai at y Sul yn unig yr adeiladwyd hwy, ac na ddylid addoli ond ar y dydd hwnnw. Os mynnir gweled eglwys neu gapel, rhaid holi a chwilio am yr allwedd ar led gwlad. Pam na adewir hwy yn agored, fel y medrir dianc o dwrf y byd iddynt, i fyfyrio neu i ddarllen? Yr oedd canghellau bwaog yr eglwys hon yn llawn