ein bod yn synnu nad oedd cyfarfod cyhoeddus yn unlle, a hithau'n amser etholiad cyffredinol. Cyn iddo ateb, daeth un arall i mewn, meddyg y dref. Gŵr bychan a wyneb hir oedd hwn, nid Llydawr, ond Picard o'r enw Louis des Cognets. Gofynnais a lwyddai Boulanger. Os gwnai, byddai chwyldroad yn Ffrainc. "A ydych chwi drosto?" Cododd y ddau ar eu traed, a gwaeddasant "Na," nes oedd yr ystafell yn diaspedain.
- " Ond y mae'n gas gennych yr Almaen a Bismarc?"
- "Ydyw, ond gwaeth nag ofer fyddai i ni ymladd yn awr."
- "A gewch chwi Alsace a Lorraine yn ol? "
- "Cawn, ond rhaid i ni gael help.
- "Help pwy? Lloegr? Yr Eidal?"
- "Nage, mae'r Saeson yn rhy ymffrostgar a hunanol i wneud dim dros neb, ac mae'r Eidal yn troi yn ein herbyn, er mai ni a'i rhyddhaodd. Rwsia fydd ein cymorth ni."
- ""A oes tipyn o gryfder yn y teimlad gwladgarol yn Ffrainc?"
- "O oes, y mae Ffrainc yn un, bydd Ffrainc yn barod cyn bo hir."
Cododd y ddau ar eu traed, a dechreuasant ganu'r Marsellaise ar uchaf eu llais, gan gadw amser gyda'i dwylaw i'w gilydd. Yr oeddynt ar ganol un arall, y Chant du Depart, pan glywyd cnoc ar y drws. Daeth gŵr ieuanc arall i mewn, wyneb gwelw, weithiau'n brudd, a'r funud nesaf yn wên i gyd. Llydawr oedd Owen Tresaint, a chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Yr oeddym oll yn siarad gyda'n gilydd, myfi'n holi, a hwythau'n ateb.
- "Beth ydyw credo boliticaidd Llydaw?"
- "Mae'r trefi'n werinol, ond y mae y rhannau gwledig yn frenhinol iawn."
- "Beth ydych chwi eich tri?"
- "Gwerinwyr i'r carn !"
A gorfod i mi aros heb holi ychwaneg nes oedd y tri wedi codi ar eu traed a chanu'r Marsellaise drwyddi.