Merindol, ac ni welodd y nefoedd, er cymaint wel, gyflafan mor anhrugarog a'r gyflafan welodd pan ymosododd y Baron D'Oppede, gyda gwehilion milwyr pob gwlad, ar y bobl heddychlon hyn. Pan gododd yr anghenfil hwn yn senedd Paris i gyfiawnhau gweithredoedd na all yr hanesydd oeraf eu hadrodd heb deimlo ei waed yn berwi, y geiriau cyntaf ddywedodd oedd, — " Judica me, Deus, et discerne causam meam de gente non sancta."
O'r braidd na ddychmygwn weled y wyneb erchyll hwnnw, a'r geiriau sanctaidd yn ymhalogi ar ei wefusau rhyfygus, ymysg y wynebau Llydewig yn canu ymlaen, —
“ | "Canys ti yw Duw fy nerth, paham y'm bwri ymaith?
Paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?" |
” |
Yr oedd cryndod erfyniad yn llais yr offeiriad wrth waeddi'r adnod nesaf,
“ | "Anfon dy oleuni a'th wirionedd, tywysant hwy fi,
ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bebyll," |
” |
ac yr oedd calon y bobl mewn hwyl wrth ateb, —
“ | Minne drof at allor fy Nuw,
At y Duw lawenycha'm hieuenctid." |
” |
Yr oedd ysbryd eu haddoliad wedi gwefreiddio'r bobl tra canai'r offeiriad, fel o galon lawn llawenydd, —
“ | "Mi a gyffesaf it ar y delyn, O Dduw, fy Nuw; paham
yr wyt drist, fy enaid, a phaham y terfysgi ynnof?" |
” |
Yr oedd rhith crefydd yma, heb ei grym; ei llawenydd, heb ei dylanwad ar fywyd; yr oedd gorchudd ar bethau mawrion Duw; a chyda gweddi'r Llydawiaid, esgynnai gweddi dieithriaid, — perthynasau ar ymweliad, —
“ | Dychwel, Arglwydd, i'r addoliad gwag, er mwyn dy
weision, llwythau dy etifeddiaeth." |
” |
Tybiwn fod y weddi wedi ei hateb, yr oedd rhyw Bresenoldeb yn yr addoliad hwn. Yr oedd y bobl yn gwyro fel gwair yn y gwynt, dan ryw ddylanwad.