Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar y diwrnod poethaf wnaeth erioed. Yr oedd ef wedi mynd yn hen lanc cyn priodi, gellid gweled hynny oddiwrth ei ofal am ei ambarelo ac oddiwrth ei wisg, — crys gwyn fu'n lanach, rhimin o gadach du main, cadwen felen wedi ei phrynnu at y briodas ac yn cael lle mawr ar ei wasgod. Priodeles? ebe fi wrth yr eneth. Gwridodd hithau, a rhoddodd ysbonc balch a'i phen, fel pe na bai rhyw lawer o gamp cael hwn, ac un pur hyll oedd, — wyneb du hagr rhychiog, llygaid na fedrech ddweyd o ba liw yr oeddynt, a sug tybaco rhwng ei ddannedd melynion. Ond yr oedd ef wedi gwirioni tipyn, ac ni welai neb ond y hi.

Yr oeddym yn aros rhyw ddwyawr ym Mhlouaret, i aros tren Paris i'n cludo tua'r gorllewin. Gorweddodd Ifor Bowen ar fainc yn ystafell aros yr orsaf, trois innau trwy'r gwres tua'r pentref sydd chwarter milltir oddiyno. Gwelwn griw o'r morwyr yn mynd o'm blaen, ac un ohonynt, un oedd yn mynd i'r môr am y tro cyntaf, — yn cael ei hun allan o'r rhes er ei waethaf. Eglwys ar fryn ydyw Plouaret, a lle marchnad o'i chwmpas, a mur crwn o dai o amgylch hwnnw. Ym mhorth yr eglwys yr oedd plant yn chware, a phapurau ar y mur yn cyhoeddi pererindod i St. Brieuc a phardwn Gwengamp. Wedi mynd i mewn i gysgodion oer yr eglwys, y peth cyntaf dynnodd fy sylw oedd y pulpud a'i ddarluniau cerfiedig o Foses ar y mynydd, yr angel yn cyffwrdd â genau Esay, Ieremi'n galaru uwchben Caersalem, Eseciel a'i ddyffryn esgyrn sychion, Daniel a'r angel, Ioan yn y diffaethwch, a phedwar efengylwr y Testament Newydd. Ar ganol yr eglwys gwelais arch, a brethyn du drosto, a lluniau arian arno, lluniau o Amser ar ei adenydd a thuser yr offrwm. Uwchben yr arch a'r corff yr oedd dau ddywediad, — "Heddyw i mi, yfory i tithau;" "Llaw yr Arglwydd a gyffyrddodd â mi." Yr oedd coedwig o ganhwyllau goleu o gylch yr arch, — pedair wrth bob cornel yn ddwylath o hyd, a thair wrth bob ochr. Yr oedd y tawelwch dyfnaf yn yr eglwys, — nid oedd yno ond myfi a'r Brython orweddai dan y gorchudd du.