Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Drwy'r prynhawn hafaidd hwnnw buom yn crwydro drwy ystrydoedd troellog henafol Morlaix. Cymerer un ystryd fel esiampl, — y mae'r tai uchel ymron a chyffwrdd yn eu bargodau, fel pe’n moesymgrymu i'w gilydd; ar eu llawr y mae siopau hirion llawnion, o frethyn a llestri ac ymborth a blodau; ym mhob ffenestr llofft gwelir wynebau pruddglwyfus y Llydawiaid drwy'r gorchuddlenni o rwydwaith gwyn. Ar ganol yr ystryd, — prin y medr glaw na phelydr haul ddod trwy'r rhimin o awyr welir rhwng y bargodau, — gwelir hen wŷr yn hollti ac yn rhwygo coed, a hen wragedd yn llifio'n galed.

Yr oedd yr haul eto yn y golwg pan gyrhaeddasom y Place des Marines, lle agored yng nghanol y dref. Anodd cael golygfa fwy tarawiadol. Oddiamgylch y mae tai uchel, a choed y llethrau sydd y tu ol iddynt i'w gweled dros eu pennau. Rhed yr afon yn gyflym a gwyllt hyd un ochr i'r lle, a gwelir rhes hir o ferched ar ei glan yn golchi'n ddiwyd. Ar y lan arall, y lan agosaf i'r ysgwar, eistedd rhes o hen Lydawiaid ar y garreg ganllaw isel, i drin y byd. Uwchben popeth gwelir y bont fel dwy enfys, ac wrth edrych i fyny arni hi y mae'r tai uchel fel corachod. Y mae naw dolen yn y bont isaf, a phedair ar ddeg yn yr uchaf, a hawdd y gallaf gredu fod hon yn un o'r pynt ardderchocaf yn y byd. O'r Place rhed ystrydoedd culion i bob cyfeiriad, — trigle gofaint, teilwriaid, hetwyr, basgedwyr, gweyddion, oriadurwyr. Pobl foesgar a charedig iawn oedd ar lan yr afon, ond nid oedd Ifor Bowen yn gweled y merched cyn dlysed a'r rhai welodd yn Lannion, gan fod eu crwyn yn dduach. Lle dedwydd oedd ar y ganllaw garreg hir er hynny, clywem furmur y dŵr a Brythoneg, ac erbyn hyn yr oedd y tai uchel yn taflu cysgodion hyfryd dros yr afon i ganol yr ysgwar. Pan oeddym yn dechre teimlo'r cerrig yn oerion, gwelem orymdaith yn dynesu'n araf, — gŵr mewn dillad hen ffasiwn yn gyntaf, yna nifer o fechgyn mewn gwen wisgoedd, ac yna rhyw bedwar offeiriad. Arosasant