Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI.
HIRAETH AM OLWEN.

Fe rua'r wendon heno
Rhwng Olwen deg a mi;
Ond myn fy meddwl grwydro
I chwilio am dani hi.

Anfonaf awel esmwyth,
Tros donnau'r eigion hallt,
I wylio hun ei hemrynt,—
I orffwys yn ei gwallt;

A suo cwyn felusddwys
Unigedd prydydd prudd,
A'r hiraeth draetha 'i hanes
Mewn dagrau ar ei rudd.

A'r lleuad wen sy'n caru
Mynyddoedd Cymru gu
Gaiff wisgo breuddwyd Olwen
Yn lliwiau'r amser fu,—