Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr amser diofal dreuliwyd
Mewn llawer melus hynt
Ar lwybrau grug y mynydd
Yn nwyf y dyddiau gynt.

Aeth heibio'r oriau hynny,
A'r beddrod ddaeth yn nes;
Ond nis gall serch heneiddio,
Na chariad golli 'i wres.