Prawfddarllenwyd y dudalen hon
IX.
GLAN Y MOR.
[O'R ALMAENEG.]
Dod allan mae y lleuad
I dwnnu ar y don;
Cofleidiaf finnau 'nghariad,
A chwydda serch ein bron.
Ym mreichiau'r eneth finfel
Gorffwysaf wrth y lli:
"Beth glywi'n suon yr awel?
Pam crynna'th law wen di?"
"Nid suon yr awel mohonynt,
Ond canu'r morwynol gôr:
Chwiorydd imi ydynt
A lyncodd gwanc y môr."