Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XVI.
PENILLION.
I anghofio 'mhoen a 'mlinfyd
Canaf bennill i f' anwylyd,—
Pennill serch i'r lili wenfron
Roes ei delw ar fy nghalon.
O'rwy'n cofio 'i gwenau serchog,
Llygaid du a gwallt modrwyog,
Cofio'i geiriau tyner melus,
Cofio'r mêl sydd ar ei gwefus.
Llym yw min fy mhrofedigaeth,
Oer yw tonnau siomedigaeth,
Eto'r wefus honno'n gwenu
Dry fy nghwyn yn ffrwd o ganu.
Dianc wnaeth pan ddaeth yr hydref,
Fel y wenol oddicartref;
Blodau'r haf oedd hi yn garu,
A gadawodd fi i alaru.