Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddoi di eto'n ôl, Riannon,
I ddringo creigiau gwylltion Arfon,
I anadlu'r byw awelon
Ac i byncio'r hên alawon?
Daeth yr eirlwys at fy mwthyn

Ag addewid am y gwanwyn;
Dwed fod haf yn dod i Gymru,
A chyda'r haf y ferch wy'n garu.