Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVIII.
EBRILL.

Y gwanwyn ymwisga yng nglesni'r nef;
A'r ddaear ymddiosg o'i hamdo gwyn;
Blagura canghennau'r dderwen gref;
A'r oenig sy'n prancio ar ddôl a bryn;
Mae euraidd ymylau
I'r duon gymylau;
A'r heulwen gusana friallu'r fron;
Ffodd rhewynt a barrug
Y gauaf oer sarrug
Ac anian gariadlon sy'n deffro'n llon.

Dan ormes teyrnasiad y gauaf llwm
Aeth cerddi melyslais y llwyn yn fud,
Ond heddyw'r ehedydd a diwnia'n y cwm,
A'r fronfraith a'i hetyb o goed y rhyd.
Y gwcw, a'r wenol,
A'r fwyalch hamddenol,
A newydd lawenydd yn llond eu bron,
Freuddwydiant am uno:
Mae serch yn dihuno
Defosiwn eu mynwes i'r tlws a'r llon.