Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A meddwol brydferthwch mae blodau'r ardd
Yn swyno eu gilydd o gylch fy nrws.
Mae Olwen yn synnu fod Rhys mor hardd,
Ac yntau'n rhyfeddu fod Lol mor glws.
Er gwaethaf gofalon
Ysgafned yw'r galon
A dawns yr awelon ar lesni'r don.
Mae'r niwl yn diflanu,
A'r adar yn canu,
Ac Olwen a'i chymar yn llon, yn llon.