Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIX.
DEILEN HYDREF.

Crwydro wnes hyd lan Tryweryn
Yn yr hydref llwm,
Heb gydymaith ond yr awel
Gwynai yn y cwm.

Gwelwn bren a'i ddail yn gochion,
Gwrid ar rudd pob un;
Tynnais un, er mwyn ei thlysni,
'N anrheg i fy mun.

Wrth edmygu ei phrydferthwch
Teimlais ias o fraw,—
Angau roisai wrid i'r ddeilen
Ddaliwn yn fy llaw.

Anadl oer a llym yr hydref,
Cusan angau yw,
Dawnsia'r awel trwy'r canghennau,
Gedy'r dail yn wyw.