Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwerdd fu hon fel ei chyfoedion
Yn y gwanwyn llon;
Ymbriodi gydag angau
Ddaeth a gwrid i hon.

Gwael a dirmygedig ydyw
Bywyd llawer un,
Ond rhydd angau anfarwoldeb
Ar ci olaf hun.

Prun yw'r tlysaf,-priod liwiau
Bywyd ar ei sedd,
Ynte'r arlliw wrid brydfertha
Welwder y bedd?