Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Acenion dyfnderau anhysbys bellterau
A dyr ar y glust ym murmuron y don,-
Bedd engyl freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.
Ond ni ddwg un gelyn yn anrhaith
Yr ysbryd anfarwol a rhydd;
Mi sarnaf ar falchder anobaith
A chreaf o'r nos oleu'r dydd;
Fy mysedd ar dannau melysber delynnau
Ddeffroant alawon perseiniol a llon
I swyno'r breuddwydion o'r bedd dan fy mron.
