Y gwanwyn yng ngwisgoedd yr hydref Ni ŵyr am wyrddlesni'r haf; A gwelw yw gruddiau'r holl ddeiliaid, Anobaith wna'r galon yn glaf; Heb haul yn codi na machlud Mewn gwyll y breuddwydiant hwy. O Dduw, ai prilys y gwyllnos Fydd cartref fy ysbryd mwy?