Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XXXII.
Y GWYLIWR.
"Gobeithiaw a ddaw ydd wyf."—SION CENT.
A mi yn wyliwr yn y ddunos hell,
A'r dagrau heilltion ar fy ngrudd ddi-wên,
Daeth ataf lais o wyll canrifoedd pell,—
Llais dwfn a dieithr y gweledydd hên:
Os prysur ydyw'r oes, mewn gwaedlyd wŷn,
Yn plethu coron ddrain i ben ei Christ,
Etifedd y dyfodol ydyw dyn,-
Iôr didranc obaith yn ei ddagrau trist.
Heb gwynfan na galaru am a fu,
Trwy feithion ac ystormus oriau'r nos
Y gwyliaf nes y gwelaf ymyl rhos
Ar odreu caddug trwm y gorwel du.
Ni pherthyn imi holi am yr awr,
Digon yw cofio cyfoeth lliwiau'r wawr.