TRYSTAN AC ESYLLT.
I. Y MARCHOG CLWYFEDIG.
Ar orsedd wen cadernid yr Eryri
Eistedda teyrn y gauaf didosturi,
Ei anadl oer yn deifio bywyd anian;
Ac unig gerdd y llwyn yw cwyn a gruddfan
Y chwaon crwydrol rhwng y brigau moelion
Alarant golli rhwysg eu gwisgoedd gleision;
Y ddaear drodd yn fedd i'w phlant, y blodau,
Ei mhynwes laith yn cuddio'u clysion liwiau;
Ac ysbryd gweddw'r haf yn torri 'i galon
Mewn galar dwys ar ôl ei holl anwylion.
Ymdaena niwlog dawch tros lesni'r nefoedd,
A'i fantell doa'r nentydd a'r mynyddoedd;
A thrwyddo crwydra dwfn a dieithr furmur
Rhaiadrau crug, hyawdledd cyfrin natur.
Marchoga awel Mawrth y tonnau geirwon
A rychant wyneb ewyn môr Iwerddon;
Heb ffrwyn i'w dal, mewn bâr ewynnog rhydd,
Ymnydda cesyg gwynion Gwyn ab Nudd.
Yn flin a llesg a llaith a'i hwyliau'n wlybion
Prysura'r llong i'w thaith ar draws yr eigion;
Yr awel drythyll chwydda fronnau 'i hwyliau
A'r morwyr diwyd blygant wrth eu rhwyfau.