Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe'i magwyd gan y gwr a garai 'i dad,
Ei hên gydymaith dewr mewn llawer cad,
Yr yswain Rhonan; ac er diogelu
Ei fywyd rhag gelynion mynnodd gelu
Ei fôn brenhinol; a'r bachgennyn, Trystan,
Feithrinodd fel etifedd iddo'i hunan,
A'i enwi'n Tantrys. Ac yng ngwlad Ermonyw
Ni chafwyd ail i'r gwinau lanc telediw
Ym mhob rhyw fabol gamp a gwrol gyfranc,
Nac ail i'r bysedd hudai gathlau didranc
Telynnau swyn y bell freuddwydiol nef
I aros ar eurdannau 'i delyn ef.

Gofwyodd eres herwlong dir Ermonyw,
Ac am ei deced dwyn y llanc telediw
A'i gludo 'mhell dros donnau gwyrdd yr eigion;
Ond tymestl wyllt ddychrynnodd y môr ladron;
Ai dirio wnawd ar ddiffaith benryn unig
Ar lannau Cernyw greigiog a phellennig.

Trwy dreigl yr oesau hên bu'r drystiog don,
A holl gynddaredd llid tymhestlog fron,
Yn curo meisdon arw Cernyw deg,
Gan wisgo ac archolli 'i thraethell freg.
A llawer oes ar ael yr uchel graig
Caer falch Tyntagel heriai ferw'r aig;
Urddasol sedd brenhinoedd Cernyw fu,
A chartref breninesau heirddion lu;