Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ac yno bwriwyd Morollt falch,
A'i ryfel farch a las.
Disgynnodd Trystan yntau
I'w gyrchu gyda'i gledd,
Ond yn yr ymgyrch cafodd glwyf
A lwydodd wrid ei wedd.
Er gwaetha'r archoll hyrddiodd
Un dyrnod grymus mawr,
Nes hollti helm ei elyn
A'i fwrw'n fud i'r llawr;
A darn o'r glaif clodforus
A dorrodd yn y briw.
Anrhydedd gorsedd Cernyw lon
A gadwodd Trystan wiw;
Ac ar y traeth i'w roesaw
Holl lys y brenin oedd;
Ac eco fud y creigiau pell
Ddadebrwyd gan eu bloedd.
Ond Morollt gludwyd ymaith
Tros donnau'r môr i'w wlad;
A'i unig wobr ar ben y daith
Oedd bedd yn nhy ei dad.
A chlod a gafodd Trystan,
A chariad mab a mun;
A'r brenin March a'i henwodd
Yn etifedd iddo'i hun.