Prawfddarllenwyd y dudalen hon
II. Y LLYS GENNAD.
Serch, cryfach yw nag angau du,
A hynach na'r mynyddoedd;
Anfarwol serch yw enaid cân
Y beirdd ar hyd yr oesoedd.
Serch yw goleuni bywyd dyn
A dwyfol grewr hyder;
Anfarwol serch yw'r bywiol waed
Yng ngwythiennau amser.
Ym more gwyn ieuenctid bod,
Ar wawr y dechreu cynnar,
Deffrôdd pelydrau tân yr haul
Nwyd serch ym mron y ddaear;
Ei danbaid gusan godai wrid
Dros harddwch ei hwynepryd,
A'i chalon fawr ddychlamodd pan
Y daeth yn fam i fywyd.
Ei mhilfil plant feithrina ar
Ei bronnau llawnion cynnes;
A'i phennaf drysor iddynt oll
Yw cyfoeth serch ei mhynwes.
Gwres serch a wrida rudd y rhos;
Nwyd serch wna'n wen y lili;
A dyheadau mwynion serch
Ddeffroa gathlau'r llwyni.