Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Hên lys urddasol gewri
Arwriaeth a gwrhydri,
A gei yn gartref iti,-
Brysia i Gernyw, Esyllt wen."
Ar hyd y llwybr anwastad, cam,
Dros lethrau serth y clogwyn,
Yr araf rodiai'r brenin March;
A chlybu glod y forwyn,
A'r gwahodd tyner iddi ddod
I gastell hên Tyntagel;
Ac yn ei fron enynnwyd fflam
O nwyd a thraserch dirgel.
Ymholai am ei llun a'i lliw,
A chyfoeth gwrid ei harddwch;
A hyawdl odiaeth oedd ei nai
Yn traethu am ei thegwch:
O'r merched heirdd fuasai gynt
Ni welsid ei hefelydd;
Ni feddai beirdd holl oesau'r byd
Y crebwyll na'r darfelydd
Ddisgrifiai'n llawn y filfed ran
O gyfoeth ei grasusau;
Anwyled oedd a Gwener glaer,
A blodyn breninesau,
Serchocach oedd na Lalage,
Na Chloris fwyn, na Lesbia;